Cefndir
Mae Fiona Gannon wedi ymddiddori mewn iaith ers blynyddoedd lawer. Ar ôl arbenigo mewn tafodieitheg a
chymdeithaseg iaith ar gyfer ei doethuriaeth, bu'n darlithio ym maes Ieithyddiaeth am nifer o flynyddoedd ym
Mhrifysgol Abertawe cyn troi i fyd cyfieithu.
Bu'n uwch-gyfieithydd i Gyngor Sir Caerfyrddin am ychydig flynyddoedd cyn symud i Ganolfan Gymraeg San Helen yn Abertawe, lle bu hi'n Bennaeth ar Uned Gyfieithu gyfun Dinas a Sir Abertawe a CBS Castell-nedd Port Talbot, ac yn gyfrifol am dîm sylweddol o staff.
Bellach mae hi'n gyfieithydd ar ei liwt ei hun ers rhai blynyddoedd, ac yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau a chyfieithu ar y pryd o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'i chymwysterau academaidd yn y Gymraeg, mae hi'n aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef safon aur y proffesiwn cyfieithu yng Nghymru, gan ei bod wedi llwyddo yn yr arholiadau ysgrifenedig o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg.
Mae Fiona yn un o aelodau Cyfieithu ar y Pryd cydnabyddedig y Gymdeithas, ac mae hi hefyd wedi llwyddo ym mhrawf Cyfieithwyr ar y Pryd y Comisiwn Ewropeaidd, fel ei bod yn un o nifer dethol o gyfieithwyr o Gymru sydd wedi cymhwyso i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg mewn cyfarfodydd ym Mrwsel.